
Mae'r stori hon am yr Ymchwilwyr bwyd yn croesawu disgyblion o Tsieina i'w hysgol ac yn archwilio dulliau coginio Tsieineaidd a gwneud caws.
Adnoddau i gefnogi
I gefnogi agweddau gwahanol ar y stori, datblygwyd ystod o adnoddau trawsgwricwlaidd. Mae'r rhain yn ychwanegol i'r cyflwyniad PowerPoint a fideo'r stori. Gellir defnyddio'r adnoddau fel deunyddiau ar eu pen eu hunain, neu wedi'u cyfuno gyda'i gilydd i gefnogi uned waith hwy. Chi biau'r dewis.
Efallai eich bod yn dymuno lawrlwytho'r holl ddeunyddiau a'u lanlwytho i amgylchedd dysgu rhithwir eich ysgol.
Mae'r holl adnoddau isod wedi cael eu darparu mewn fformat yr ydych chi'n ei ddiwygio, sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi newid y taflenni gwaith fel eu bod yn fwy addas ar gyfer anghenion y plant yr ydych yn eu haddysgu.